Though not directly Splott related, this message and invitation to a city-wide event is relevant and very community-orientated and Inksplott is happy to share it with its readers. Please scroll down for the Welsh version.
English:
We are deeply shocked and saddened by the senseless terror attack at Finsbury Park and give our heartfelt sympathies to all of those affected. Our emergency services have again responded with speed to an incident that seeks to inflict harm and suffering in an attempt to divide us. Like each of the recent terrorist incidents, this is an attack on our values of respect and mutual understanding.
Over the course of the weekend prior to this incident, Cardiff was host to several well-attended celebrations for the Great Get Together, in memory of Jo Cox MP. Cardiff’s Muslim community have also hosted open community Iftars throughout the month of Ramadan, welcoming those of all or no faith to join them in breaking fast. This is the unity and solidarity that we must be champion, celebrate and continue in Cardiff.
Leader of Cardiff Council, Cllr Huw Thomas, said:
“I, like everyone I know, was deeply saddened and shocked to hear about the incident outside a mosque in London in the early hours of Monday morning and to see news reports that a man from Cardiff has been arrested in connection with this offence.
“As a Council, we will redouble our efforts, working with other agencies and partners, to reassure all of Cardiff’s communities that they are welcome, secure and safe here.
“Cardiff has always been known as a welcoming city, a city that celebrates diversity, a city that pulls together in difficult times. It’s important we pull together now and don’t let hate and those who promote hate to drive a wedge between our communities.
“This Friday, on City Hall lawns, from 9pm, the Muslim community in Cardiff is holding a special Ramadan Iftar – an event to which everyone is invited to celebrate the breaking of the daily Ramadan fast.
“This event was set up to help feed the homeless and to welcome refugees to our city. It is also open to anyone who wants to come along and take this opportunity to celebrate everything that binds our city and our communities together. It is a chance to show that we will not be set against each other. Cardiff has never been like that and never will be.
“I will be there on Friday and I hope those of you who can will join us in front of City Hall to celebrate the values we all share; love of family, friendship, being good neighbours, caring for others and understanding. We have much more in common than those who would seek to drive us apart will ever realise.”
Our City’s communities do not tolerate extremist views and current information regarding the suspect suggests that he acted alone. There is not any significant activity from far right or Islamophobic groups in Cardiff and this incident has understandably disturbed many residents.
The investigation into what happened is being led by the Metropolitan Police Service, supported by South Wales Police and the Wales Extremism and Counter Terrorism Unit. Due to the nature of this incident, police officers will carry out extra patrols in order to reassure communities, especially those observing Ramadan. Over the coming days, the local authority and Police will also be meeting with communities to listen to their concerns and offer reassurance and support.
South Wales Police and Crime Commissioner Alun Michael said:
“It is deeply concerning to discover the link between the terrible events at Finsbury Park and South Wales, particularly given the strong bond that exists between our communities here.
I am confident that the strong foundations which are already in place will not be shaken by this tragic incident.”
Anyone with information about this incident or anything that causes them concern or suspicion should call the police confidentially on 0800 789 321
Welsh:
Rydym yn teimlo sioc a thristwch dwys yn sgil yr ymosodiad terfysgaidd disynnwyr ym Mharc Finsbury ac yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i bawb a effeithiwyd ganddo. Unwaith eto mae ein gwasanaethau brys wedi ymateb yn gyflym i ddigwyddiad sy’n ceisio peri niwed a dioddefaint mewn ymgais i’n gwahanu. Fel pob un o’r digwyddiadau terfysgaidd diweddar, mae hwn yn ymosodiad ar ein gwerthoedd o barch a chyd-ddealltwriaeth.
Dros y penwythnos cyn y digwyddiad hwn, cynhaliodd Caerdydd nifer o ddathliadau a fynychwyd gan lawer o bobl ar gyfer y Great Get Together, er cof am Jo Cox AS. Yn ogystal mae cymuned Foslemaidd Caerdydd wedi cynnal Iftars cymunedol agored, drwy gydol mis y Ramadan, gan groesawu’r sawl â ffydd neu heb ffydd i ymuno â nhw i dorri’r ympryd. Dyma’r undod a’r cydsafiad sy’n rhaid i ni eu hyrwyddo, eu dathlu a pharhau â nhw yng Nghaerdydd.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:
“Fel pawb rwy’n ei adnabod, roeddwn yn drist iawn ac wedi dychryn o glywed am y digwyddiad y tu allan i fosg yn Llundain yn ystod oriau mân bore Llun, a gweld adroddiadau yn y newyddion bod dyn o Gaerdydd wedi’i arestio yn gysylltiedig â’r drosedd hon.
“Byddwn ni fel Cyngor, yn ymdrechu’n galetach ar y cyd ag asiantaethau a phartneriaid eraill i roi sicrwydd i holl gymunedau Caerdydd bod croeso iddyn nhw, a’u bod yn ddiogel yma.
“Mae Caerdydd yn adnabyddus erioed fel dinas groesawgar, dinas sy’n dathlu amrywiaeth, dinas sy’n cyd-dynnu mewn cyfnodau anodd. Mae’n bwysig ein bod yn cydsefyll yn awr, gan beidio â gadael i gasineb a’r sawl sy’n hyrwyddo casineb i hollti ein cymunedau.
“Ddydd Gwener yma, ar lawntiau Neuadd y Ddinas o 9pm ymlaen, bydd y gymuned Foslemaidd yng Nghaerdydd yn cynnal Ramadan Iftar arbennig – digwyddiad lle bydd croeso i bob un ddathlu diwedd yr ympryd dyddiol sy’n rhan o Ŵyl Ramadan.
“Cafodd y digwyddiad hwn ei drefnu er mwyn bwydo’r digartref a chroesawu ffoaduriaid i’n dinas. Mae hefyd yn agored i unrhyw un a hoffai ddod draw i fanteisio ar y cyfle hwn i ddathlu popeth sy’n rhwymo ein dinas a’n cymunedau ynghyd. Mae’n gyfle i ddangos na fyddwn yn troi yn erbyn ein gilydd. Nid yw Caerdydd erioed wedi bod felly a fydd hi fyth felly ychwaith.
“Byddaf yno ddydd Gwener ac rwy’n gobeithio y bydd y sawl sy’n gallu yn ymuno â ni o flaen Neuadd y Ddinas i ddathlu’r gwerthoedd y mae pob un ohonom yn eu rhannu; cariad teuluol, cyfeillgarwch, bod yn gymdogion da, gofalu am eraill a dealltwriaeth. Mae gennym fwy yn gyffredin o lawer nag y bydd y rhai sy’n ceisio ein troi’n elynion, fyth yn ei sylweddoli.”
Nid yw cymunedau ein Dinas yn goddef safbwyntiau eithafol ac mae’r wybodaeth ar hyn o bryd am yr un dan ddrwgdybiaeth yn awgrymu ei fod wedi gweithredu ar ei ben ei hun. Nid oes unrhyw weithgarwch arwyddocaol gan grwpiau asgell dde eithafol na rhai Islamoffobig yng Nghaerdydd ac wrth reswm mae’r digwyddiad hwn wedi peri aflonyddwch i lawer o drigolion.
Mae’r ymchwiliad i’r hyn a ddigwyddodd yn cael ei arwain gan y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan, gyda chymorth Heddlu De Cymru ac Uned Eithafiaeth a Gwrth-Derfysgaeth Cymru. Oherwydd natur y digwyddiad hwn, bydd swyddogion yr heddlu yn ymgymryd â phatrolau ychwanegol er mwyn tawelu meddyliau cymunedau, yn enwedig y rhai sy’n cadw at Ramadan. Dros y diwrnodau nesaf, bydd yr awdurdod lleol a’r Heddlu hefyd yn cyfarfod â chymunedau er mwyn gwrando ar eu pryderon a chynnig cysur a chymorth.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, sef Alun Michael:
“Mae clywed am y cysylltiad rhwng y digwyddiadau erchyll ym Mharc Finsbury a De Cymru yn peri pryder dwys, yn enwedig o ystyried y cwlwm cryf sy’n bodoli rhwng ein cymunedau yma.
Rwy’n hyderus na chaiff y seiliau cryf sy’n bodoli eisoes eu hysgwyd gan y digwyddiad trasig hwn.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn neu am unrhyw beth sy’n peri pryder neu amheuaeth iddynt, alw’r heddlu’n gyfrinachol ar 0800 789 321.