Do you speak Welsh? Are you learning Welsh? If so, there are plenty of opportunities to practice your language and meet other Welsh speakers or learners in Splott and Adamsdown. Matt Spry explains more… / Ydych chi’n siarad Cymraeg? Dych chi’n dysgu Cymraeg? Os felly, mae digonedd o gyfleoedd i ymarfer eich iaith a chwrdd â siaradwyr Gymraeg neu ddysgwyr yn y Sblot a’r Waunadda. Dyma Matt Spry yn esbonio mwy…
Welsh in Adamsdown and Splott
I’m from Plymouth originally and have been learning Welsh since 2015. Learning Welsh is important to me because my Gran was from Neath so it’s part of my heritage really.
I’d been to many Welsh language events in Cardiff but there didn’t seem to be any in my local area so I decided to set up the Welsh in Adamsdown and Splott group in June 2017 to try to increase the profile of the Welsh language in both areas.
The group meets socially on a regular basis for a chat over a cuppa, lunch or a pint and the meetings are a mixture of learners eager to learn more and fluent speakers ready to impart their knowledge of the language.
By now the group has over 50 members including fluent speakers and learners and even learners from as far afield as Italy and Brazil who are keen to learn about Welsh culture.
I’ve just started a new job working for Welsh for Adults at Cardiff University. I’m organising courses and teaching Welsh to refugees and asylum seekers in Cardiff. I also want to encourage them to attend informal sessions so they can practice their Welsh and meet other learners and first language speakers which will help with integration with the Welsh speaking community in Cardiff. Hopefully some of them will start coming to our meetings.
If you’d like to join or for more information, look up ‘Cymraeg yn Waunadda a’r Sblot/Welsh in Adamsdown and Splott’ on Facebook.
Cymraeg yn Waunadda a’r Sblot
Ydych chi’n siarad Cymraeg? Dych chi’n dysgu Cymraeg? Os felly, mae digonedd o gyfleoedd i ymarfer eich iaith a chwrdd â siaradwyr Gymraeg neu ddysgwyr yn y Sblot a’r Waunadda. Dyma Matt Spry yn esbonio mwy…
Rwy’n dod o Aberplym yn wreiddiol ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2015. Mae dysgu Cymraeg yn bwysig i mi oherwydd roedd fy Mam-gu yn dod o Gastell-Nedd felly mae’r iaith yn rhan o fy nhreftadaeth.
Ro’n i wedi bod i nifer o ddigwyddiadau Cymraeg yng Nghaerdydd ond doedd braidd dim digwyddiadau yn lleol i mi, felly penderfynais sefydlu Grŵp Cymraeg yn Waunadda a’r Sblot ym mis Mehefin 2017 I geisio codi proffil y Gymraeg yn y ddwy ardal.
Mae’r grŵp yn cwrdd yn gymdeithasol yn rheolaidd am sgwrs dros baned, ginio neu beint ac mae cymysgedd o ddysgwyr sy’n awyddus i ddysgu mwy a siaradwyr rhugl sy’n barod i rannu eu gwybodaeth o’r iaith yn dod i’r cyfarfodydd.
Erbyn hyn, mae gan y grŵp dros 50 o aelodau gan gynnwys siaradwyr rhugl a dysgwyr, gyda rhai ohonynt yn dod yn wreiddiol o’r Eidal a Frasil ac yn awyddus i ddysgu am ddiwylliant Cymreig.
Dw i newydd ddechrau swydd newydd yn gweithio i Ganolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd. Dw i’n trefnu cyrsiau ac yn dysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd. Dw i hefyd eisiau eu hannog i fynychu sesiynau anffurfiol er mwyn iddyn nhw allu ymarfer eu Cymraeg a chwrdd â dysgwyr eraill a siaradwyr iaith gyntaf y bydd yn eu helpu i integreiddio gyda’r gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd. Gobeithio y bydd rhai ohonyn nhw’n dechrau dod i’n cyfarfodydd ni.
Os hoffech ymuno neu am ragor o wybodaeth, edrychwch am ‘Cymraeg yn Waunadda a’r Sblot/Welsh in Adamsdown and Splott’ ar Facebook.