Bydd eich casgliadau wythnosol ar gyfer deunydd ailgylchu a gwastraff bwyd yn dychwelyd i’r arfer o ddydd Llun 1 Mehefin.
Nid yw eich diwrnod casglu yn newid (felly dal ar ddydd Iau i Sblot, Tremorfa a Waunadda).
Mae hynny’n golygu:
♻️ Bydd bagiau ailgylchu gwyrdd a gwastraff bwyd yn cael eu casglu o bob eiddo bob wythnos, gyda gwastraff bagiau du a gwastraff hylendid yn cael eu casglu bob pythefnos
❎ Bydd gwastraff gardd gwyrdd, casgliadau swmpus a’r treial gwydr yn dal i gael eu hatal hyd nes nodir yn wahanol
? Bydd casgliadau gwastraff gardd gwyrdd untro yn parhau i gael eu cynnal dros y penwythnos/au olaf ym mis Mai
♻️ Rydym yn bwriadu ailagor ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGCau) yn Ffordd Lamby a Bessemer Close cyn gynted ag y bo modd.
Rydym wedi bod yn gweithio i ddiweddaru’r wybodaeth am y calendr i breswylwyr ym mhob rhan o’r wefan, ar ap Cardiff.Gov a BOBi (ein SgyrsBot).
Sylwer mai dim ond y tri chasgliad nesaf ar gyfer eich eiddo y mae’r calendrau yn eu dangos.
Ewch i www.caerdydd.gov.uk/casgliadau i weld y dyddiad casglu ar gyfer eich ardal chi.