Mae grŵp lleol, Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot, yn edrych am help i godi arian i brynu fan i helpu gyda dau glwb brecwast yn y Sblot.
Mae un aelod o’r grŵp, Angela Bullard, wedi lansio menter codi arian ar Facebook, gan ddweud:
“Rydym eisiau prynu fan er mwyn casglu’r bwyd a roddir gan archfarchnadoedd lleol i redeg ein Clwb Brecwast Cymunedol. Rydym yn helpu ein cymuned i dyfu a chefnogi eraill trwy ddarparu man ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol ac ethnig lle gellir cael brecwast gyda chymdogion a lle mae cymorth a chyfeillgarwch ar gael i aelodau’r gymuned sy’n wynebu tlodi bwyd neu unigedd cymdeithasol.”
Menter sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr yr Clwb Brecwast Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot sy’n gweini brecwast poeth i ryw 45 person bob dydd Mercher yng Nghanolfan Oasis, Ffordd y Sblot a phob dydd Iau yn Hen Lyfrgell y Sblot, Ffordd Singleton gyda’r ddau rhwng 8-10am.
Y syniad gwreiddiol oedd bod y Clwb Brecwast yn helpu’r digartref a’r difreintiedig yn y gymuned ond daeth yn boblogaidd yn sydyn ymysg pobl y gymuned yn gyffredinol ac mae wedi arwain at wella perthnasoedd cyfredol a meithrin rhai newydd, gan greu ysbryd cymunedol hyfryd.
Mae hyd at 12 gwirfoddolwr yn cymryd rhan bob wythnos naill ai’n casglu/dosbarthu bwyd, yn gosod neu lanhau’r ystafell neu’n paratoi a gweini’r bwyd. Does dim byd yn cael ei wastraffu felly mae unrhyw beth sydd dros ben yn cael ei roddi i Oasis a Rainbow of Hope.
Mae Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot hefyd yn cynnal digwyddiadau yn y gymuned, gan gynnwys gwyliau haf a phartïon Calan Gaeaf i deuluoedd. Rydym yn lwcus iawn i’w cael nhw!
I helpu’r grŵp anhygoel hwn o wirfoddolwyr diwyd brynu fan er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu’r gwasanaeth gwych hwn yn y Sblot, gallwch roddi yma.
Os hoffech chi gael brecwast gyda’ch cymdogion neu wirfoddoli gyda’r Clwb Brecwast, gallwch alw heibio unrhyw fore Mercher neu Iau, neu gysylltu ag Angela Bullard ar splottcommvols@virginmedia.com.
Am ragor o wybodaeth ar Wirfoddolwyr Cymunedol y Sblot, cliciwch yma.