Felly, mewn theori, mae arwydd i arafu ger ysgol gynradd yn beth da, cywir? Nid pan mae wedi cael ei osod yng nghanol palmant heb adael unrhyw le ar gyfer pramiau, beiciau neu gerbydau symudedd i basio heb wyro’n agos at y ffordd!
Neithiwr, roedd llawer o rwystredigaeth (a chryn dipyn o chwerthin) ar gyfryngau cymdeithasol ar ôl i drigolyn lleol, @EmAppears bostio lluniau ar Twitter o arwydd newydd ar Ffordd Walker sydd, i bob diben, yn cyfyngu mynediad i’r palmant i bawb oni bai am aseliaid.
Dywedodd @EmAppears:
@cardiffcouncil mae arwydd newydd wedi cael ei osod ar Ffordd Walker yng nghanol y palmant. Eithaf sicr bod dim lle i gadeiriau olwyn a phramiau fynd heibio. Heb sôn am lwybr diogel i’r ysgol. Allwch chi ei symud plis? Beth am ei atodi i’r polyn lamp gerllaw, arbed lle.
Rhannwyd y neges yn sydyn gan Incsblot:
O diar, ble mae’r synnwyr cyffredin. Peidiwch â rhoi arwydd ffordd reit yng nghanol y palmant jyst achos taw dyna beth sydd ar y cynlluniau, bois! #splott
Doedd dim rhaid aros yn hir i’r ymatebion ddechrau llifo i mewn, gan gynnwys
‘Am hurt’
a
‘Mae fel jôc’.
Roedd y Cynghorydd lleol ac Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas, yn gyflym i ymateb gan ddweud ar Twitter:
Cafodd hwn ei osod gan gontractwyr (ac rwy’n gobeithio’n fawr eu bod heb ddilyn y cynlluniau’n gywir!). Am ffolineb. Byddaf yn codi’r mater gyda swyddogion y Cyngor ben bore fory.
Nododd @EmAppears bod arwydd ychwanegol hefyd wedi’i atodi at y polyn lamp yn nodi bod y palmant (anhygyrch) i’w rannu gan feicwyr a cherddwyr:
I wneud pethau’n waeth, mae arwyddion llwybr cerdded/beicio a rennir gerllaw ac ymhellach i fyny ar yr un adran. Rwy’n falch o weld hyn yn digwydd ond beth yw’r pwynt os nad oes lle i bawb!
Ond, roedd Huw ar y trywydd:
Sylwais bore ‘ma hefyd bod yna arwydd newydd arall (ger y groesfan sebra, rwy’n credu) gydag ail bolyn lamp yn ei guddio. Rhannais eich lluniau gyda’r Prif Swyddog Gweithredol a’r Cyfarwyddwr Trafnidiaeth bore ‘ma ac roeddent wedi’u syfrdanu. @msjanehenshaw yn cwrdd â swyddogion ar y safle ddydd Iau.
Roedd diweddariad heno. Postiodd Huw ymateb gan Swyddogion y Cyngor yn nodi bod yr arwydd wedi cael ei osod yn y lle anghywir ac y byddai’n cael ei symud.
Ychwanegodd Huw:
Newyddion da oddi wrth swyddogion y Cyngor ar y mater. Rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy siomi’n fawr gyda pherfformiad y contractwyr ar y prosiect hwn, a oedd wythnosau’n hwyr yn barod, a byddaf yn cymryd y mater ymhellach gyda nhw.
Felly, diolch @EmAppears am dynnu ein sylw at y methiant hwn a diolch i Huw Thomas am ddatrys y sefyllfa ar gyfer y sawl sy’n cerdded o amgylch y Sblot!
Pobl y Sblot; cadwch lygad ar yr arwyddion hynny ar Ffordd Walker a sicrhewch eu bod yn cael eu symud er mwyn i ni allu cerdded i Ysgol Glan Morfa (a Lidl, wrth gwrs) yn ddiogel (yn arbennig yn ein hardal 20mya newydd).