Ganwyd Bernice Ruth Rubens, enillydd benywaidd cyntaf Gwobr dra chwenychedig Booker, yma yn y Sblot ar Orffennaf 26 ym 1928.
Roedd ei thad, Eli Rubens, yn Iddew o Lithwania a oedd wedi ffoi rhag gwrth-Semitiaeth ac wedi mynd ar long i Efrog Newydd, neu felly roedd yn meddwl. Mewn gwirionedd, cafodd ei dwyllo a dywedwyd wrtho am adael y llong yng Nghaerdydd. Yn ôl ffynonellau, aeth pythefnos gyfan heibio cyn iddo sylweddoli nad oedd yn Efrog Newydd.1
Priododd Eli â Dorothy Cohen, sy’n dod o deulu Pwyleg a oedd wedi ymfudo i Gaerdydd, ac fe gawson nhw ddau fab, Harold a Cyril, a merch; Bernice.
Astudiodd Bernice Saesneg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd ac aeth ymlaen i’w dysgu mewn ysgol yn Birmingham cyn mynd i mewn i’r diwydiant ffilm yn y 60au a gwneud rhaglenni dogfen.
Er mai hi yw un o nofelwyr mwyaf llwyddiannus Prydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd, nid yw hi’n adnabyddus, er iddi gyhoeddi mwy na 20 nofel, gyda nifer ohonynt wedi cael eu haddasu ar gyfer y sgrin.
Bu The Elected Member, pedwaredd nofel Rubens, ennill Gwobr Booker 1970, er nad oedd hi’n adnabyddus yn y DU ar y pryd.
Roedd y llyfr yn un o ddewisiadau’r Urdd Lenyddol yn America, ond gartref roedd wedi cael ei anwybyddu gan rai papurau newydd a chylchgronau gan werthu 3,000 copi yn unig. Ni enillodd y wobr eto, er daeth ei nawfed nofel, A Five Year Sentence (1978), yn ail.2
Byddai Rubens yn aml yn tynnu ar ei theulu yn ei hysgrifennu ac roedd yn adnabyddus am ei harsylwadau di-glem a’i hiwmor tywyll.
Yn The Elected Member, mae Norman Zweck, y prif gymeriad, yn trafferthu gyda’r pwysau o fod yn rhiant ac yn dod yn gaeth i amffetaminau, gan dreulio amser mewn sefydliad. Roedd ei brawd hŷn, Harold, wedi treulio amser mewn sefydliad.
Tynnodd hefyd ar chwaliad ei phriodas ar gyfer ei thrydedd nofel, Mate in Three, a’i ysgariad am ei chweched nofel, Go Tell The Lemming.
Gwnaethpwyd ei hail nofel, Madame Sousatzka, yn ffilm gyda Shirley MaClaine, a enillodd Golden Globe am ei phortread o’r cymeriad yn y teitl.
Mae unfed nofel ar hugain nofel Rubens, Yesterday in the Back Lane, yn stori bwerus am fenyw yn y Sblot sy’n lladd dyn sy’n ceisio ei threisio yn y lôn y tu ôl i dŷ ei rhieni a’r euogrwydd y mae’n ei deimlo wedyn.
Mae Yesterday in the Back Lane ar gael i’w brynu mewn clawr papur o Amazon: https://www.amazon.co.uk/Yesterday-Back-Lane-Bernice-Rubens/dp/0349107637
Roedd Bernice Rubens newydd gwblhau ei hunangofiant pan fu farw, yn 76 oed. Roedd hi’n gweithio mwy neu lai bob dydd. “Rwy’n teimlo’n fudr os na fyddaf yn ysgrifennu,” esboniodd hi.3
Bu farw Bernice Rubens yn Camden, Llundain, ar 13 o Hydref, 2004.
Llyfryddiaeth 4
2005 – When I Grow Up
2003 – The Sergeant’s Tale
2002 – Nine Lives
2001 – Milwaukee
1999 – I, Dreyfus
1997 – The Waiting Game
1995 – Yesterday in the Back Lane
1993 – Autobiopsy
1993 – Hijack
1992 – Mother Russia
1991 – A Solitary Grief
1990 – Kingdom Come
1987 – Our Father
1985 – Mr Wakefield’s Crusade
1983 – Brothers
1981 – Birds of Passage
1979 – Spring Sonata
1978 – A Five-Year Sentence
1977 – The Ponsonby Post
1975 – I Sent a Letter To My Love
1973 – Go Tell the Lemming
1971 – Sunday Best
1969 – The Elected Member
1966 – Mate in Three
1962 – Madame Sousatzka
1960 – Set on Edge
Ffynonellau:
1,2,3 Bernice Rubens: Booker-winning novelist whose work focused on the more disturbing aspects of human behaviour – The Guardian. Awdur Janet Watts.
4 https://literature.britishcouncil.org/writer/bernice-rubens British Council