Ers ei lansio ym mis Mehefin 2019, bob dydd Mawrth rhwng 7-8pm ar Twitter, mae #WildCardiffHour wedi gwahodd preswylwyr o bob rhan o Gaerdydd i rannu eu lluniau a’u straeon o’r mannau gwyrdd maen nhw wedi ymweld â nhw, a’r natur maen nhw wedi’i gweld.
Wedi’i sefydlu’n wreiddiol gyda chefnogaeth UpRising Cymru yn 2019, nod #WildCardiffHour yw ailgysylltu cymunedau’r ddinas â’u cymdogion trefol naturiol.
Dywedodd y sylfaenydd a phreswylydd Tremorfa, Pip:
“Er mwyn i ni amddiffyn ein bywyd gwyllt, sy’n wynebu mwy o bwysau nag erioed, yn gyntaf mae angen i ni wybod ei fod yno er mwyn ei ddeall yn well. Felly rydw i’n gwneud fy rhan fach i helpu hynny i ddigwydd ar lefel leol gyda’r awr.”
“Rydyn ni’n cael pob math o bobl yn ymuno, o deuluoedd yn dysgu ac yn gofyn cwestiynau am fywyd gwyllt eu gardd, i arbenigwyr profiadol sy’n rhannu’r darganfyddiadau lleol anhygoel maen nhw wedi’u gwneud. Mae’n awyrgylch groesawgar a chefnogol a phob wythnos rwy’n dysgu rhywbeth newydd.”
Yn ystod y pandemig, mae’r awr wedi ffynnu mewn gwirionedd, gan roi lle i bobl leol fwynhau agweddau llesol treulio amser ym myd natur ac i’w helpu i ailddarganfod yr hyn sydd ar stepen eu drws.
Dywedodd Pip:
“Mae pobl wedi gweld pethau gwych yn 2020, o Lamhidyddion a Morloi ar arfordir de Caerdydd, i adar ysglyfaethus godidog fel Hebogau Tramor yn esgyn dros erddi yng nghanol y ddinas.
Rydym hefyd yn ffodus i fod yn gartref i rywogaethau sy’n brin yn genedlaethol fel y gardwenynen feinlais – mae mwy yn yr ardal hon na nifer o warchodfeydd natur!
Fy ngobaith yw parhau i ddod â’r awr hyfryd hon o lawenydd a darganfyddiad natur wyllt bob wythnos, a gobeithio cyflwyno ychydig mwy o ffyrdd i drigolion canol y ddinas ddod ychydig yn agosach at eu cymdogion natur fel y gallwn eu hamddiffyn ar gyfer y dyfodol.”
I ymuno â #WildCardiffHour, dilynwch @wildcardiffhour ar twitter a chadwch lygad allan rhwng 7-8pm bob dydd Mawrth a rhannu’r hyn rydych chi wedi’i weld, gan ychwanegu #WildCardiffHour at eich trydariad.
Mae’r tîm hefyd o gwmpas trwy gydol yr wythnos i ateb eich cwestiynau, postio cynnwys defnyddiol ac i rannu digwyddiadau cymunedol.