Dan Sylw

Gerddi ffrwythau a llysiau ar gyfer dwy ysgol gynradd Sblot

Mae Ysgol Gynradd Moorland ac Ysgol Glan Morfa yn rhan o raglen sydd wedi ennill sawl gwobr am drawsnewid meysydd chwarae ysgolion yn erddi ffrwythau a llysiau awyr agored bywiog wedi’i lansio yng Nghaerdydd.

Hyd yn hyn mae Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â’r elusen amgylcheddol Trees for Cities (TfC) wedi darparu 15Iard Ysgol Llawn Bwyd ar draws y ddinas gyda’r nod o ennyn brwdfrydedd plant dros dyfu a bwyta bwyd iach, wrth ddarparu adnoddau dysgu awyr agored gwerthfawr.

Lansiwyd y prosiect yn swyddogol yn Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon yn Llanrhymni gan Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysg, yr Amgylchedd a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry,  ynghyd â Phrif Weithredwr TfC, David Elliot, a Chyfarwyddwr Grow Cardiff, Isla Horton.

Ymunodd staff a disgyblion â nhwo’r ysgol a berfformiodd gân a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: “Yng Nghaerdydd rydym yn cydnabod buddion gwerthfawr mannau gwyrdd o ran iechyd a lles plant a phobl ifanc ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo’r defnydd o fannau awyr agored ar gyfer dysgu a chwarae.

“Trwy weithio’n agos gyda phob ysgol, mae TfC a’r Cyngor wedi gallu creu dyluniadau pwrpasol ar gyfer meysydd chwarae, lle gellir tyfu bwyd ar draws yr ysgol gyfan, gan annog deietau iachach ac ymddygiadau bwyta da ar gyfer y dyfodol.

“Trwy ein partneriaeth â Trees for Cities, rydym yn bwriadu ehangu’r rhaglen i gynnwys hyd at 40 o ysgolion ar draws y ddinas dros ytair blynydd nesaf. Mae hyn yn ein cefnogi i gyflawni Strategaeth Un Blaned Caerdydd a hyrwyddo amrywiaeth o gynlluniau ansawdd aer, plannu coed a gwyrddio cyfannol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.”

Bydd pob prosiect fel arfer yn cynnwys popeth sydd ei angen i’r ysgol dyfu ei bwyd ei hun yn llwyddiannus gan gynnwys gwelyau uchel, tŷ gwydr, compost, abwydfa a sied offer yn ogystal â lle addysgu awyr agored i ddosbarth cyfan.

Dywedodd David Elliott, Prif Weithredwr Trees for Cities, “Rydym yn hynod falch o’r gwaith sy’n cael ei wneud ledled Caerdydd. Mae brwdfrydedd yr ysgolion, y gwaith caled gan bartneriaid cyflawni fel Grow Cardiff a’r gefnogaeth barhaus gan y Cyngor yn galluogi’r rhaglen hon i dyfu o nerth i nerth.”  

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  “Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i fyw bywyd iach, ac mae’r prosiect hwn yn cefnogi ymhellach uchelgais Caerdydd o ddod yn ddinas UNICEF UK sy’n Dda i Blant, lle mae lleisiau a safbwyntiau plant wrth wraidd popeth a wnawn.”

Meddai Pennaeth Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon, Rhian Lundrigan: “Un o’n dyheadau yn Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon yw datblygu pob plentyn i fod yn unigolyn iach a hyderus sy’n barod i fyw bywyd boddhaus fel aelod gwerthfawr o’r gymdeithas. Mae annog plant yn gynnar i fwyta deiet maethlon a chytbwys yn bwysig am nifer o resymau a bydd ein Hiard Llawn Bwyd yn ein helpu i’w haddysgu am fwyta’n iach yn ystod plentyndod, gan eu hannog i wneud dewisiadau iachach wrth iddynt ddod yn oedolion.

“Bydd y cynllun hefyd yn ein galluogi i helpu plant a’u teuluoedd i ddeall o ble y daw eu bwyd a buddion cynnyrch cartref, megis eu helpu i gael y fitaminau a’r mwynau cywir yn eu deiet, gan hybu egni a datblygiad a chefnogi eu gallu i ddysgu.”

Ymhlith yr ysgolion sydd eisoes wedi elwa o’r cynllun mae Ysgol Gynradd Coed Glas, Ysgol Gynradd Moorland, Ysgol Y Berllan Deg, Ysgol Gynradd Glyncoed, Ysgol Pwll Coch, Ysgol Gynradd Grangetown, Ysgol Gynradd Meadowbank, Ysgol Gynradd Herbert Thompson, Ysgol Glan Morfa, Ysgol Pen y Pil, Ysgol The Hollies, Ysgol Bro Eirwg, Ysgol Gynradd Greenway, Ysgol y Werna Glan-yr-Afon

Darllenwch fwy am Strategaeth Un Blaned Caerdydd yma

Inksplott