Bydd Parc y Maltings yn y Sblot yn cau dros dro i’r cyhoedd o 3 Mai 2022 i ganiatáu i waith uwchraddio ddigwydd.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y parc yn cynnwys plaza mynedfa gylchol oddi ar Stryd Tyndall Ddwyreiniol, ardal chwarae naturiol newydd, ardal gemau aml-ddefnydd a chyfleusterau sglefrfyrddio/sgwtera.
Bydd 31 o goed lled-aeddfed hefyd yn cael eu plannu fel rhan o strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor, ynghyd â dolydd, llwyni a lawntiau agored newydd.
Bydd llwybrau, arwyddion, seddi a biniau newydd hefyd yn cael eu gosod.
Mae’r gwaith yn rhan o raglen barhaus o adnewyddu sy’n digwydd mewn parciau ledled y ddinas a disgwylir iddo gymryd tua phedwar mis i’w gwblhau.
Mae’r parc nesaf i Ygol Glan Morfa ar Stryd Lewis.