Mae’r cynllun ailgylchu newydd didoli ar garreg y drws yn cael ei ehangu i 5,000 o eiddo pellach ledled y ddinas, yn cynnwys Sblot, er mwyn gwella ansawdd yr ailgylchu sy’n cael ei gasglu o gartrefi preswylwyr, cynyddu cyfradd ailgylchu’r ddinas ac ymdrechu tuag at dargedau heriol Llywodraeth Cymru i ailgylchu.
Bydd eiddo penodol mewn wyth ward ar draws y ddinas yn derbyn y gwasanaeth newydd, a bydd pob un o’r trigolion sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn derbyn llythyr yr wythnos nesaf, i’w cynghori am y newidiadau.
Y cynwysyddion newydd y gellir eu hailddefnyddio yw:
- Sach goch am blastig a chaniau
- Sach las ar gyfer papur a chardfwrdd
- Cadi glas ar gyfer poteli a jariau gwydr.
Y dull ailgylchu o fathu wrth ymyl y ffordd yw’r dull y mae Llywodraeth Cymru’n ei ffafrio o gasglu ailgylchu o gartrefi preswylwyr – fel y nodir yn eu Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Mae’r dull hwn o gasglu ailgylchu yn cael ei ddefnyddio gan bron pob awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae wedi helpu i wneud Cymru’n un o’r gwledydd ailgylchu gorau yn y byd.
Mae’r dull ailgylchu newydd eisoes wedi ei dreialu mewn pedair ward yng Nghaerdydd a’n nod yw cyflwyno’r cynllun newydd ledled y ddinas dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae arwyddion cynnar o’r treialon yn dangos bod ansawdd yr ailgylchu a gasglwyd o gartrefi preswylwyr wedi cynyddu’n aruthrol o’i gymharu â chasglu ailgylchu mewn bagiau gwyrdd. Yn yr ardaloedd prawf, mae’r gyfradd halogi – sef eitemau sy’n cael eu rhoi allan i’w hailgylchu, ond mewn gwirionedd ni ellir eu hailgylchu – wedi gostwng o 30% i 6% yn yr ardaloedd hyn.
Darllenwch fwy yma: