Dychwelodd gwasanaeth casglu deunydd swmpus ar gyfer eitemau cyfyngedig ar Fehefin 1af.
Gofynnwn i breswylwyr drefnu casgliad dim ond ar gyfer eitemau sy’n achosi anawsterau gwirioneddol i chi eu storio gartref.
Mae’r casgliad gwastraff swmpus ar gyfer eitemau mwy, na fyddech yn gallu eu ffitio yng nghist eich car i ddod â nhw i’n canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby neu Glos Bessemer.
Nid ydym yn codi tâl am gasglu eitemau y gellir eu hailgylchu’n llawn:
Bwrddn bwyta pren neu silff lyfrau
Ffrâm gwely metel neu uned silffoedd
Offer trydanol mawr fel oergell neu beiriant golchi
Carpedi
Fframiau a ffenestri UPVC
Matresi sbring (codir tâl am ewyn cof)
Rydym yn codi tâl am gasglu eitemau a wneir o gymysgedd o wahanol ddeunyddiau:
Soffas a chadeiriau breichiau
Gwaelod gwelyau difán
Matresi ewyn cof (mae matresi sbring am ddim)
Dodrefn wedi eu gwneud o gymysgedd o ddeunyddiau megis cwpwrdd pren gyda drysau gwydr
Ni allwn gasglu rhai eitemau, gan gynnwys:
- Asbestos
- Gwydr ffeibr
- Deunyddiau adeiladu a gwastraff adeiladu, megis bwrdd plastr neu ddeunydd inswleiddio
- Darnau car neu injan
- Eitemau haearn bwrw
- Cemegolion megis tynnwr paent
- Tiwbiau fflworolau
- Poteli neu duniau nwy
- Olew (injan neu goginio)
- Tuniau paent
- Teiars
- Pianos
- Gwastraff gardd
Gallwch archebu casgliad drwy gysylltu â C2C ar (029) 2087 2088. Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd yn gallu trefnu casgliadau ar eich rhan, dim ond ar gyfereitemau sydd am ddim – #cwestiwncyflymcaerdydd. Bydd y tîm yn gofyn i chi am yr holl wybodaeth sydd ei hangen mewn neges uniongyrchol.
Os oes angen i chi archebu casgliad yn gynt na’r dyddiad nesaf sydd ar gael, mae gan ein tîm Gwasanaethau Masnachol nifer o opsiynau y codir tâl amdanynt.
Gallant gasglu un eitem neu gallwch logi sgip. Cysylltwch â GwasanaethauMasnachol@caerdydd.gov.uk am ddyfynbris am ddim heb rwymedigaeth.
Sylwer na fyddwn yn casgluos oes gennych chi, neu rywun yn eich cartref, symptomau COVID-19.
Ewch i caerdydd.gov.uk/gwastraffswmpus i gael rhagor o wybodaeth.