Mae’r Sblot wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd. Mae diwydiannau wedi cychwyn a gorffen masnachu; siopau wedi agor a chau; tai wedi cael eu hadeiladu ac eraill wedi cael eu dymchwel. Yn yr erthygl hon, rydym yn edrych ar yr hyn sydd wedi newid yn y Sblot ers ffurfiwyd yr ardal.
Y cyfnod cyn y Sblot
Ffurfiwyd y Sblot o dir a adferwyd o’r môr gan ymsefydlwyr Seisnig a ddaeth i’r ardal yn y 1200au ac adeiladu morglawdd o amgylch y morfeydd heli arfordirol, eu draenio a chreu plotiau o dir.
Rhwng y cyfnod hwnnw a’r 1800au hwyr, tir fferm oedd y Sblot, dan berchnogaeth Ffarm Sblot Uchaf a Sblot Isaf. Roedd gan ardal gyfagos Tremorfa ei ffarm ei hun, sef Ffarm Pengam. Er i berchnogaeth y tir newid sawl tro, am chwe chan mlynedd, ardal wledig oedd y Sblot yn llawn tir amaeth.
Beth am yr enw?
Awgryma meddwl cyffredin ar darddiad yr enw y daw’r enw Sblot o’r hen air Cymreig ‘Ysblad’ – ‘tir gwastad wedi’i amgylchynu gan gorsydd’, gyda hwn yn cael ei gyfieithu’n ddiweddarach i’r Sblot gan yr ymsefydlwyd Seisnig di-Gymraeg.
O’r caeau i’r ffwrnes
Daeth y newid mawr nesaf i’r Sblot yng nghanol y 19eg ganrif gyda’r Chwyldro Diwydiannol a’r angen am ddur. Trowyd East Moors, plot o dir ar waelod y Sblot nesaf i’r dociau, yn ddatblygiad masnachol ac fe adeiladwyd Gweithfeydd Dur East Moors.
Dan berchnogaeth Cwmni Dowlais o Ferthyr Tudful, agorwyd y gweithfeydd ym mis Chwefror 1891 gan yr Arglwydd Bute, a daethant i gael eu hadnabod fel Gweithfeydd Dur Dowlais.
Roedd y gweithfeydd, a oedd â phedair ffwrnais chwyth ac yn arbenigo mewn gwneud cydrannau dur ar gyfer llongau, yn cyflogi cannoedd o ddynion ac ar un adeg, roedd yn cynhyrchu tair miliwn tunnell o ddur y flwyddyn. Goroesodd cyrch awyr yn 1944 a pharhau i gynhyrchu dur tan iddo gau yn 1978.
Un fricsen ar y tro – adeiladu’r Sblot
Adeiladwyd mwyafrif y tai yn y Sblot rhwng 1875 a 1914, gyda’r mwyafrif yn cael eu hadeiladu i letya gweithwyr y gweithfeydd dur. Ffordd Sblot, Ffordd Portmanmoor a Ffordd Moorland oedd y prif strydoedd a gafodd eu hadeiladu i gychwyn. Ochr yn ochr â hyn, adeiladwyd dau barc ar dir a roddwyd gan yr Arglwydd Tredegar. Roedd gan Barc y Sblot, a agorodd yn 1901, a Pharc Moorland nifer o gyfleusterau hamdden ac er bod rhai o’r cyfleusterau wedi mynd, mae’r parciau’n dal i fodoli heddiw (er bod Parc y Sblot yn cael ei ystyried yn rhan o Dremorfa y dyddiau hyn). Ers hydref 2016, Parc y Sblot yw safle’r Hyb STAR newydd, cyfleuster hamdden gyda llyfrgell a phwll nofio dan do i ddisodli pwll y Sblot a Chanolfan STAR.
I addysgu plant y Sblot, adeiladwyd ysgolion; y cynharaf oedd Ysgol Splottlands ar Ffordd Sblot (ar safle Canolfan STAR). Agorodd yr ysgol yn 1882 ac roedd yn dysgu 1,500 o ddisgyblion. Cafodd ei ddymchwel yn 1971 ac fe agorodd Canolfan STAR yn 1981.
Ysgol Ffordd Moorland ac Ysgol Uwchradd Fodern y Sblot oedd nesaf, ond does dim llawer o wybodaeth ar hanes y rhain heblaw am y ffaith bod y Fonesig Shirley Bassey yn ddisgybl yn y ddwy.
Sefydlwyd Sefydliaeth Prifysgol y Sblot yn 1901 i ddarparu addysg i bobl ddifreintiedig, gyda hon yn symud i Ffordd Courtenay yn 1906. Yn 1923, newidiodd i Goleg Sant Illtyd, yr Ysgol Ramadeg gyntaf i fechgyn Catholig yng Nghymru. Yn anffodus, ni roddwyd statws rhestredig i’r adeilad Fictoriaidd hwn gan Lywodraeth Cymru ac mae bellach yn y broses o gael ei dymchwel er gwaethaf ymgyrch angerddol a brwd gan drigolion lleol i’w achub (#savesplottuni am ragor o wybodaeth).
Adeiladwyd yn 1887, (fel yr awgrymir gan yr enw Saesneg), ffatri enfawr oedd The Maltings a oedd yn gwneud brag o haidd mewn tair neuadd fawr. Roedd yn gweithredu tan y 1970au pan iddi gau a gadael yr adeilad yn wag. Yn y 1980au agorodd yr adeilad fel unedau diwydiannol ar gael i’w rhentu. Cofrestrwyd yr adeilad fel un Rhestredig Gradd II yn 1975 fel ‘mwy na thebyg yr esiampl orau o fracty ar raddfa fawr yng Nghymru, gan gadw nodweddion diwydiannol wrth ei drosiad.’
Adeilad arall o bwysigrwydd hanesyddol yn y Sblot yw Neuadd Eastmoors ar Stryd Sanquhar. Adeiladwyd dros 100 mlynedd yn ôl yn 1892 fel neuadd cenhadfa ar gyfer y Symudiad Ymosodol Methodist Calfinaidd ac yn lletya 187 o ysgolheigion, mae bellach yn gartref i Ganolfan Ieuenctid y Sblot.
Hanes y diwydiant awyrennau yn yr ardal
A wyddoch chi fod yna hanes o awyrennu yn y Sblot? Finnau chwaith, ond roedd yna awyrennwr byd-enwog yn yr ardal yn ogystal â maes awyr hefyd!
Enw adnabyddus, er seren lai adnabyddus o’r Sblot yw’r awyrennwr Ernest Willows a adeiladodd awyrlongau mewn sied yn East Moors. Ernest oedd y person cyntaf i hedfan o Lundain i Ffrainc ac fe goffawyd y fenter hon trwy adeiladu Ysgol Uwchradd Willows ar safle ei faes awyr a thrwy enw’r dafarn Wetherspoon ar Heol y Ddinas ar ei ôl.
Yn 1930, agorwyd Maes Awyr Pengam ar dir rhosydd Pengam. Roedd ganddo lwybr glanio byr ond er hynny, roedd yn cael ei defnyddio fel sylfaen llu awyr cynorthwyol 614 Sir Forgannwg ac fe’i hail-enwyd yn RAF Caerdydd yn 1937. Bu’r maes awyr gau yn 1954 ac mae’r ardal ar hyd Ffordd y Morglawdd bellach yn cynnwys cymysgedd o unedau diwydiannol a ffatrïoedd – gyda rhai ohonynt yn gyn siediau awyrennau a ddefnyddiwyd gan y maes awyr.
Siopau a marchnadoedd
Mae dwy brif stryd siopa yn y Sblot: Stryd Carlisle a Ffordd Sblot, gyda’r ddau yn llawn siopau rhwng canol a diwedd yr 20fed ganrif (llai nawr, gwaetha’r modd). Fodd bynnag, roedd yna trydedd stryd fasnachol yn y Sblot yn llawn prysurdeb siopwyr a oedd yn awyddus i wario eu harian. Ar Ffordd Portmanmoor a’r strydoedd cyfagos roedd becws, siop ffrwythau a llysiau, siop nwyddau haearn, fferyllydd, siop trin gwallt, siop bapur newydd, swyddfa bost, siop tsips ac ambell dafarn cyn, ynghyd â 17 stryd arall, gan gynnwys Stryd Llanelli, Greenhill, Smith, Enid, Layard, Milford a Menelaus, iddi gael ei dymchwel i wneud lle ar gyfer unedau diwydiannol yn y 1970au. Ymhlith y tafarnau roedd The Lord Wimbourne a The Bomb and Dagger (lle fu Shirley Bassey berfformio yn blentyn). Yn ôl y sôn roedd yna grocodeil yn hongian o nenfwd y siop tsips! Yr unig adeilad gwreiddiol sy’n dal i fodoli o’r ardal hon o’r Sblot yw’r New Fleurs Sports & Social Club ar dop Ffordd Portmanmoor.
Am ffaith ddiddorol am Stryd Carlisle, darllenwch gyfweliad Incsblot gyda Maria Robinson o salon trin gwallt a harddwch, Intense, sydd wedi bod yn masnachu yn y Sblot am 26 mlynedd.
Cychwynnodd Marchnad y Sblot, ger Ffordd Lewis, fasnachu yn y 1980au ac mae wedi mynd o nerth i nerth gyda datblygiad ystadau o dai yng Ngorllewin y Sblot.
Am ragor o wybodaeth ar Farchnad y Sblot y diwrnodau hyn, gan gynnwys cyfweliad byr gyda stondinwr, darllenwch yr erthygl hon ar Incsblot.
Sêr y Sblot
Er iddi gael ei geni ym Mae Teigr, symudodd Shirley Bassey i Ffordd Portmanmoor yn y Sblot pan roedd hi’n blentyn a dyna le’r oedd hi’n byw tan iddi ddod yn enwog.
Cafodd Gohebydd Teithio Radio 2, Lynn Bowles, ei geni yn y Sblot ond doedd hi ddim yn byw yma yn hir (symudodd ei theulu i Rydri).
Daw John Humphreys o Waunadda mewn gwirionedd (Stryd Pearl) ond gan ei fod wedi dweud ar sawl achlysur ei fod yn dod o’r Sblot, rydym yn hapus i’w dderbyn fel un ohonom ni!
Atgofion o’r Sblot
Os oes gennych chi unrhyw atgofion o’r hen Sblot neu straeon am y Sblot yr hoffech chi eu rhannu, cysylltwch â ni – buasem wrth ein boddau yn clywed gennych.