Mae 19 o goed a osodwyd dros dro ar Stryd y Castell yr haf diwethaf yn cael eu symud i gartrefi parhaol newydd ym Mharc Sblot a Pharc Moorland.
Dewiswyd y ddau barc hyn yn Sblot fel safleoedd ar gyfer y coed Gellyg addurnol gan fod gan yr ardal rai o’r lefelau gorchudd coed isaf yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.
Bydd naw coeden yn cael eu plannu ym Mharc Sblot, a 10 yn cael eu plannu ym Mharc Moorland.
Mae’r coed i gyd yn cael eu plannu mewn mannau torri unwaith sydd newydd eu dynodi.
Mae’r mannau ‘torri unwaith’ newydd sy’n cwmpasu ardal gyfunol o 11,475m2 yn cael eu cyflwyno yn y parciau y tymor torri gwair hwn, fel rhan o waith parhaus y Cyngor i gefnogi bioamrywiaeth.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:
“Un o’r nodau a nodwyd yn ein hymateb Caerdydd Un Blaned i’r argyfwng hinsawdd oedd cynyddu’r ddarpariaeth canopi coed yng Nghaerdydd gan 25% erbyn 2030 – mae dod o hyd i gartref parhaol i’r coed hyn yn un cam bach ar y ffordd i gyflawni hynny.”
“Erbyn diwedd y tymor plannu byddwn wedi plannu tua 2,400 o goed ar draws y ddinas ac rydym wedi ymrwymo i blannu llawer mwy wrth i ni sicrhau bod Caerdydd yn dod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030.”
Un o’r coed yn cael ei plannu ym Mharc Moorland ar dydd Mercher 17fed o Chwefror:

Yn ddiddorol, ar eu hymgais gyntaf i blannu’r coed ym Mharc Moorland, daeth tîm Cyngor Caerdydd o hyd i sylfeini un o’r 17 stryd Splott wreiddiol a gafodd eu dymchwel yn gynnar yn y 1970au i adeiladu’r ystâd ddiwydiannol. Dim ond Aberystwyth Street a Aberdovey Street a oroesodd.
