Mae Incsblot wrth ein boddau yn hyrwyddo busnesau lleol ac roedd yn bleser cyfweld ag entrepreneur diweddaraf y Sblot, Rhian Kate, sydd â’i busnes ei hun yn gwneud gemwaith hyfryd.
Incsblot: Helo Rhian, diolch am gytuno i wneud cyfweliad ar gyfer Incsblot. Allwch chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi’ch hun a’ch busnes, Rhian Kate?
Rhian: Rhian ydw i ac fe gychwynnais fy musnes gemwaith ar ôl i mi orffen prifysgol ychydig dros 2 flynedd yn ôl. Rwyf wedi bod yn frwdfrydig erioed am wneud a gallu gwerthu eitemau rwyf wedi’u dylunio fy hun a’u gwneud â llaw; mae’n rhoi llawer o bleser i mi!
Incsblot: Sut gychwynnoch chi yn y maes? Allwch chi ddweud ychydig wrthym am hanes eich busnes?
Rhian: Fe wnes i radd mewn gwneuthuriad ac roedd yn gam naturiol i mi ar ôl hynny. Rwyf wedi bod wrth fy modd erioed yn gwerthu’r pethau rwy’n eu gwneud ac roedd gen i gyfle i gael lle i weithio a chael fy mentora am flwyddyn ar ôl gorffen y brifysgol. Roedd yn ymddangos fel cyfle rhy dda i golli, felly fe sefydlais ‘Rhian Kate’ a dwi erioed wedi difaru’r penderfyniad.
Incsblot: A pham fod y busnes yn y Sblot?
Rhian: Rwyf newydd symud i fyw yn y Sblot! Mae’n neis byw mewn ardal sy’n agos i swyddfa bost heb y ciwiau hir fel sydd yn yr un yn y dref. Mae rhedeg eich busnes eich hun yn gallu bod yn anodd felly mae bod rhywle tawel, gyda phopeth sydd eu hangen arnoch gerllaw yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Incsblot: Beth yw eich arbenigedd?
Rhian: Rwy’n gwneud yr holl emwaith â llaw felly mae rhai prosesau rwy’n arbenigo ynddynt. Piwter yw’r prif ddeunydd rwy’n ei defnyddio; mae ganddo liw llwydaidd, felly rwy’n creu gweadwaith ar arwyneb y piwter sy’n golygu bod pob darn yn unigryw.
Incsblot: Beth yw stori orau ers sefydlu’r busnes?
Rhian: Baswn i’n dweud pan i mi ennill gwobr! Roedd rhaid i mi sôn am fy musnes i banel o feirniaid er mwyn ceisio ennill gwobr ac fe ddewison nhw fy musnes fel un o’r enillwyr. Roedd yn brofiad anhygoel a doeddwn i byth yn meddwl baswn i’n ennill rhywbeth fel ‘na!
Incsblot: Dywedwch gyfrinach wrthym am y Sblot neu rywbeth nad ydym yn ei wybod am yr ardal.
Rhian: Rwy’n dal i ddysgu am y Sblot felly rwy’n methu awgrymu unrhyw beth ond rwy’n edrych ymlaen at ddarganfod mwy.
Incsblot: Unrhyw gynlluniau neu ddigwyddiadau cyffrous ar y gorwel?
Rhian: Ar hyn o bryd rwyf wrthi’n ceisio penderfynu beth rwyf eisiau ei gyflawni gyda fy musnes ac i ba gyfeiriad rwyf eisiau mynd ynddi, ond rwy’n gobeithio cael stondin mewn mwy o farchnadoedd y flwyddyn hon.
Incsblot: A yw pobl yn gallu eich dilyn ar-lein? A oes gennych chi Facebook, Twitter neu wefan?
Os hoffech chi gymryd golwg ar fy nghynnyrch, dyma fy ngwefan –
https://www.rhiankate.co.uk/jewelleryshop
Rydw i ar instagram hefyd – https://www.instagram.com/rhiankatemakes/
Facebook – https://www.facebook.com/RhianKateJewellery/
A Twitter – https://twitter.com/RhianKateMakes
Incsblot: Mae hynny’n wych – diolch yn fawr am y cyfweliad!