Os ydych chi neu’ch plentyn ar fin troi’n 18, mae’n werth darllen hwn!
Mae Vaughan Gething AC yn galw ar bob rhiant a pherson ifanc sydd ar fin troi’n 18 i wirio a oes ganddynt fynediad at gronfeydd ymddiriedolaeth gyda chefnogaeth y llywodraeth, a gafodd eu sefydlu pan gawsant eu geni.
Mewn rhai achosion gallai’r cyfrifon ymddiriedolaeth plant hyn, a fydd yn aeddfedu yr hydref hwn ac a allai cynnwys tua £1,000, gael eu colli wedi i Lywodraeth y DU sgrapio cynllun y blaid Lafur. Bydd y don gyntaf o gronfeydd ymddiriedolaeth i blant yn aeddfedu ym mis Medi 2020, gyda mynediad at gynilion ar gyfer unrhyw blentyn a aned yn 2002.
Mae Llafur Cymru yn mynnu bod Llywodraeth y DU yn gwneud mwy i sicrhau bod unrhyw berson ifanc sydd ar fin troi’n 18 yn gallu derbyn y swm sydd yn eu cronfeydd ymddiriedolaeth.
Sefydlwyd Cronfeydd Ymddiriedolaeth i Blant gan gyn Lywodraeth Lafur y DU yn 2002. Roedd yr holl blant a aned ar ôl 1 Medi 2002 yn derbyn taliad cychwynnol gwerth o leiaf £250 cyn i Weinidogion Ceidwadol ddiddymu’r cynllun yn 2011. Cynllun di-dreth hir dymor ydyw gyda’r nod o roi hwb i gynilion ar gyfer plant gyda’r sawl o deuluoedd incwm isel yn derbyn £250 ychwanegol.
Bu Llywodraeth Lafur Cymru roi hwb ychwanegol i’r gyda Chronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru yn ystod hydref 2009. Roedd y cynllun yn darparu £50 ychwanegol ar gyfer unrhyw blentyn yng Nghymru, gyda thaliad o £100 i blant sy’n byw mewn cartrefi incwm isel wrth iddynt gychwyn ysgol gynradd.
Dywedodd Vaughan Gething:
“Bu Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y DU ar y pryd wneud buddsoddiad sylweddol yn nyfodol pobl ifanc ac mae’n hanfodol bod Llywodraeth gyfredol y DU yn chwarae ei rhan wrth i’r bobl ifanc hyn wneud cynlluniau ar gyfer eu dyfodol.”
“Bydd nifer o bobl yn ddiarwybod bod ganddyn nhw’r cyfrifon hyn gan fod Llywodraeth Geidwadol y DU heb eu hyrwyddo nhw. Rwy’n annog pob person ifanc sy’n troi’n 18 ym mis Medi i wirio eu cronfeydd. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar sut i gael mynediad at y cronfeydd hyn, cysylltwch â fy swyddfa neu ewch i: https://www.gov.uk/child-trust-funds.”
“Mae’r cronfeydd hyn yn gyfle i bobl ifanc ail-fuddsoddi a pharhau i gynilo neu i dalu am gostau uniongyrchol, yn 18 mlwydd oed, maen nhw’n wynebu rhai o benderfyniadau pwysicaf eu bywydau. Ni ddylai fod unrhyw beth i’w rhwystro rhag cael mynediad at yr arian y mae ganddynt yr hawl iddo.”
Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi ysgrifennu at Drysorlys y DU yn mynnu bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael mynediad at eu cyfrifon.
Dywedodd hi:
“Roedd y cronfeydd a sefydlwyd gan gyn lywodraethau Llafur y DU a Chymru yn fuddsoddiad yn nyfodol ein plant. Os yw pobl ifanc yn dewis ail-fuddsoddi’r arian a chynilo at y dyfodol neu ei defnyddio i dalu costau uniongyrchol i helpu gyda’u camau nesaf ar yr oedran hollbwysig hwn, ni ddylai fod unrhyw beth i’w rhwystro rhag cael mynediad at y cynilion hyn.”
Gellir cael mwy o wybodaeth ar sut i gael mynediad at y cronfeydd hyn yma: https://www.gov.uk/child-trust-funds.