Pa mor aml ydych chi’n cerdded heibio adeilad heb fwy na chipedrychiad? Bob dydd mwy na thebyg. Dyna’n union beth rydw i wedi bod yn gwneud gydag Eglwys St German yn Waunadda ers i mi fod yn byw yn yr ardal hon, rhyw 12 mlynedd erbyn hyn. Ond ar ôl mynychu gwasanaeth goffa yn yr eglwys neithiwr, mae fy safbwynt wedi newid yn llwyr ac rwyf wrth fy modd efo’r adeiladau mawreddog sy’n dal i fodoli yn y rhan hon o Gaerdydd. Rwy’n gobeithio ymchwilio i bob un ohonynt gydag amser, ond rwyf am gychwyn gyda’r rhyfeddod hwn o’r 19eg ganrif ar Stryd y Planedau.
O’r tu allan mae’n urddasol ac, fel y gwelais neithiwr, mae’r adeilad yn gwbl ysblennydd tu fewn hefyd. Nenfydau uchel, bwaog, ffenestri gwydr lliw hardd, darllenfa eryr aur; mae’r adeilad yn llawn pethau hyfryd i edrych arnynt. Ond, pam fod yr eglwys yno, yn y rhanbarth hwn o Gaerdydd? Dysgais ychydig mwy am hanes yr adeilad yn y canllaw defnyddiol i ymwelwyr.
Priod enw’r hyn rydym yn ei adnabod fel St German yw Eglwys St German o Auxerre ac fe’i hagorwyd yn 1884. Dyw fy maths i ddim yn dda, ond mae hynny ryw 135 mlynedd!
Fe’i hadeiladwyd yn dilyn cynnydd enfawr ym mhoblogaeth Y Rhath, a oedd yn cynnwys Waunadda ar y pryd. Rhwng 1872 a 1884, bu’r boblogaeth gynyddu o 8,000 o bobl i 40,000, ac roedd angen enfawr am eglwysi newydd yn yr ardal ar unwaith. Dychmygwch; mewn 12 mlynedd, roedd yna gynnydd o 400% yn nifer y bobl yn byw yn yr ardal hon o Gaerdydd oherwydd agoriad Dociau Bute a dyfodiad y rheilffordd, ac roedd nifer o’r bobl hyn yn Gatholig ac yn edrych am le i fynd i grefydda.
Bu’r Tad Frederick W. Puller gyrraedd yn 1872 a chanfod eglwys blwyf gyda lle i 300 o bobl yn unig a chapel bach a oedd wedi’i addasu o ysgubor. Penderfynodd fod angen gwneud rhywbeth ac, erbyn mis Medi 1874, codwyd adeilad dur yn Waunadda a’i gysegru i St German.
Esgob y 5ed ganrif o Auxerre yn Gaul, Ffrainc erbyn hyn, oedd St German a ymwelodd â Phrydain i bregethu Catholigiaeth ac, yn ôl y sôn, fe basiodd trwy’r Rhath ar ei ffordd i Gymru! Byddai hynny wedi golygu teithio ar hyd yr hen Via Martima, neu Heol Casnewydd, fel mae’n cael ei alw heddiw (rhaid i mi ddweud fy mod yn hoff o’r hen enw!). Roedd y Tad Frederick W. Puller, offeiriad cyntaf y plwyf, yn teimlo bod yr enw yn addas ar gyfer eglwys newydd a oedd yn cael ei adeiladu jyst tu ôl i’r ffordd y teithiodd German arni, felly dyna sut benderfynwyd ar yr enw.
Gan wybod na fyddai’r adeilad dur yn para’n hir a’i fod yn rhy fach, aeth olynydd y Tad Puller, y Parchedig Charles Smythies, ati i godi arian am eglwys newydd ac fe gododd bron £5,000 erbyn 1881. Mae hyn werth tua £330,000 heddiw yn ôl yr archifau cenedlaethol, sy’n gwneud i chi feddwl. Allwch chi ddychmygu adeiladu rhywbeth mor fawreddog heddiw am £330k?
Roedd y Parchedig Smythies yn llwyddiannus iawn gyda’i ymdrechion i godi arian, felly fe benodwyd pensaer eglwysi enwog y cyfnod, George Frederick Bodley, ac fe roddwyd y tir gan Charles Lord Tredegar, arwr ymosodiad y Light Brigade. Mewn gwasanaeth a lywyddwyd gan y 84-mlwydd oed Esgob Ollivant o Landaf, bu Charles Lord Tredegar osod y garreg sylfaen ym mis Ebrill 1882, a gellir gweld y garreg yn wal ogleddol y gangell.
Agorwyd Eglwys St German yn ffurfiol ar 1 Hydref 1884 (Diwrnod St German) a chynhaliwyd wyth gwasanaeth i ddathlu, gyda’r cyntaf am 4.45am.
Mae’r eglwys wedi’i hadeiladu o garreg Swelldone leol, gydag addurniad brics Bath a tho llechi Cymreig (wrth gwrs!). Y bwtresi hedegog ar y tu allan sy’n cefnogi to’r gysegrfa yw’r unig rai yng Nghaerdydd. Mae’r meindwr, o’r enw fleche, wedi’i orchuddio â llechi ac mae ganddo gloch y Santus. Mae cymaint o bethau diddorol yn yr adeilad hwn, baswn yn annog unrhyw un i fynd am ymweliad, crefyddol neu beidio, i weld y bensaernïaeth anhygoel gan gynnwys bedyddfaen, cerfiadau, cerfluniau, ffenestri gwydr lliw, pulpud derw a’r ddarllenfa eryr pres i enwi ond rhai ohonynt.
Un o’r elfennau mewnol sy’n tynnu’r llygaid yw’r organ; un o’r goreuon yng Nghymru a adeiladwyd gan William Hill and Sons o Lundain (a gododd yr organ yn Abaty Westminster. Gan gostio £1,000 ac yn cael ei defnyddio am y tro cyntaf ar Ddiwrnod St German yn 1885, yn wreiddiol roedd yn cael ei chanu â llaw, ond yn 1900 ychwanegwyd chwythwr ffan drydan.
Mae cymaint mwy i ddweud am yr adeilad ond yn hytrach na dweud y cyfan, baswn yn eich annog i fynd am ymweliad i weld yr holl ysblennydd â’ch llygaid eich hun. Cofiwch fynd ag un o’r canllawiau argraffedig i’w darllen; mae hanes y lle yn hynod ddiddorol.
Wrth i chi adael, mae’n bosib y byddwch yn gweld y cerflun metel tu allan; Calfarî 12 troedfedd a godwyd gan gerflunydd lleol, Frank Rope, yn 1965 yn dangos Crist ar y groes rhwng ffigurau o’r Fendigaid Forwyn a Sant Ioan yr Efengylydd. Gosodwyd hwn i ddisodli’r Calfarî carreg yn portreadu’r un sefyllfa a gafodd ei ddinistrio mewn cyrch awyr yn 1941 pan fu farw un o’r lleianod, y Chwaer Teresa, hefyd. Codwyd y cerflun metel, newydd er cof amdani.
Ymddengys yn briodol fy mod wedi dysgu’r holl hanes lleol hwn yn ystod cyngerdd goffa.
Rwy’n gobeithio eich bod wedi mwynhau dysgu ychydig yn fwy am hanes un o’n hadeiladau hyfryd. Rwy’n gobeithio archwilio mwy yn y misoedd i ddod.
I ddarganfod mwy am St German, ewch i’r wefan: https://www.saintgermanwithsaintsaviour.org/