Ychydig wythnosau yn ôl, postiwyd darlun o Ffordd Sblot ar Twitter gan Alan Bretos, ffrind yr artist lleol, Malcolm Murphy. Bu dros 2,000 o bobl hoffi’r darlun gyda nifer hefyd yn ei rannu. Roedd hyd yn oed erthygl amdano yn Wales Online! Yr wythnos hon, bu Incsblot gwrdd â Malcolm P Murphy i ddysgu ychydig mwy am sut aeth y dyn lleol hwn o beintio graffiti ar y wal i olew ar gynfas.
Incsblot: Helo Malcolm, diolch am gytuno i wneud cyfweliad ar gyfer Incsblot. Mae’ch lluniau o Gaerdydd, gan gynnwys y Sblot ac Waunadda yn ffantastig. Allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym amdanoch chi’ch hun a’ch gwaith?
Malcolm: Rwy’n 47 mlwydd oed, 48 cyn bo hir, ac rwyf wedi byw yn y Sblot am ran helaeth fy mywyd.
Dechreuais ddarlunio yn 10 oed gyda byd cerddoriaeth hip hop ro’n i’n gweld ar y teledu yn fy ysbrydoli. Yn 14 oed, roeddwn yn ddigon ffodus i fynd i ddosbarth dawnsio ar fore Sadwrn gyda’r enillydd cystadlaethau dawnsio llawrydd Fankie Johnson; trwy hyn, dysgais am y symudiad breg-ddawnsio a gyda hynny daeth celf graffiti. A dyna hi – dyna’n union beth ro’n i eisiau darlunio.
Yna, fe gychwynnom griw o’r enw Clash of Styles. Penderfynais gyda 3 ffrind ein bod yn mynd i beintio chwistrell waliau o amgylch Caerdydd. Daethom o hyd i gyflenwr erosolau yng Nghasnewydd a oedd yn gwerthu caniau nad oedd yn cael eu cynhyrchu bellach, felly fe gynilom ein harian poced ac arian cinio trwy gydol yr wythnos er mwyn prynu caniau bob dydd Sadwrn (roedd fy mam yn poeni braidd oherwydd do’n i ddim yn bwyta yn ystod y diwrnod!). Fodd bynnag, roedd werth yr ymdrech – dechreuom wneud murluniau mawr ledled Caerdydd. Cawsom ein herlid gan yr heddlu sawl tro a chawsom ein dal yn y diwedd. Yn chwistrellu wal wen y tu ôl i bwll nofio’r Sblot – wel, do’n i methu peidio.
Dyna oedd cychwyn fy ngyrfa fel llythrennwr traddodiadol oherwydd, wedi i mi gael fy nal gan yr heddlu, fe ddywedon nhw wrth yr ysgol, gyda hyn yn arwain ataf yn cael fy rhyddhau o’r ysgol am ddiwrnod yr wythnos ar brofiad gwaith gyda llythrennwr traddodiadol lle dysgais y grefft dros gyfnod o 5 mlynedd. Symudais ymlaen i gelf chwistrell baent a chreu themâu ar gyfer parciau antur a ffeiriau.
Rwyf wedi bod yn hoff o John Constable a LS Lowry erioed felly penderfynais geisio copïo eu gwaith a dyna sut ddygais gelfyddyd gain – dysgu fy hun. Yn araf bach, dechreuais gynhyrchu darlun ar ôl darlun gydag olew ac acrylig, rhywbeth ro’n i’n ei fwynhau’n fawr, hyd yn oed ar ddiwrnodau gwael. Hyd yn oed heddiw, dydw i ddim yn gyfforddus gyda chanlyniadau unrhyw ddarlun gorffenedig – rydych chi eisiau ceisio gwella bob tro.
Incsblot: Rydych chi hefyd yn gweithio fel llythrennwr. Beth yw’r cydbwysedd rhwng ysgrifennu arwyddion a’r gwaith celfyddyd gain?
Malcolm: Mae’r cydbwysedd rhwng ysgrifennu arwyddion a’r gwaith celfyddyd gain yn gwestiwn anodd, rhaid i chi jyst newid eich het, ond os ydych chi’n meddwl am gelf yn yr un modd â mi, ar ddiwedd y dydd mae’n ymwneud â siapau a delweddau a’r unig wahaniaeth yw’r cyfrwng a ddefnyddir i greu’r gwaith. Er enghraifft, mae darluniau’n gweithio’n dda gydag olew ac mae rhai delweddau’n gweithio’n dda gydag enamel, mae’n hawdd gwneud y camgymeriad bod un cyfrwng yn perthyn i feini prawf penodol. Rhoi cynnig ar bethau a dysgu o’ch camgymeriadau yw’r ymagwedd orau yn aml, heb fod yn rhy feirniadol o’ch hun ar yr un pryd.
Incsblot: Beth ydych chi’n meddwl o’r sîn gelf yn yr ardal? Sut basech chi’n hoffi ei gweld yn datblygu?
Malcolm: Rwy’n credu bod celf erosol yn ffantastig, er mae’r sîn celfyddyd gain ar ei hôl hi ychydig o gymharu â gweddill y wlad; does dim digon o orielau’n gwerthu gwaith lleol.
Incsblot: Beth yw eich arbenigedd? Ydych chi’n arbenigo mewn cyfrwng penodol?
Malcolm: Nac ydw – dwi’n gweithio gyda gwahanol gyfryngau.
Incsblot: Pa gyngor basech chi’n rhoi i egin artistiaid? Sut gallan nhw hyrwyddo a gwerthu eu gwaith?
Malcolm: Baswn i’n argymell dod o hyd i bwnc sy’n eich cyffroi a mynd amdani. Dilynwch eich calon a chadw ati gyda’ch hoff bwnc. Bydd y pwnc yn aml yn eich chwilio chi os byddwch yn cadw ati. Hefyd, chwiliwch am oriel sy’n arddangos gwaith tebyg i’ch gwaith chi ac ewch yno’n aml. Cofiwch beidio ag edrych yng Nghaerdydd yn unig ond yn bellach i ffwrdd hefyd. Mae gwerthu cynnyrch ar-lein yn lle da i gychwyn hefyd.
Incsblot: Ymddengys eich bod yn hoff iawn o beintio Caerdydd – ble yw’r lle pellaf rydych chi wedi teithio i beintio?
Malcolm: Rwy’n hoff iawn o Gaerdydd; mae’n anodd peidio hoffi’r lle. Rwyf wedi teithio i Glasgow a Lands End gyda fy mhrosiectau celf masnachol. Rwyf wedi bod yn symud o un lle i’r llall erioed gyda’r ffair yng Ngorllewin Cymru. Rwyf wedi teithio ledled Prydain gyfan mwy neu lai dros y 16 mlynedd diwethaf. Roedd fy swydd ddiwethaf ar gyfer dyn sioe ac fe arhosais am fis yn gweithio yn Boston, Swydd Lincoln. Rydych chi’n gweld pob math o bobl ar y ffordd – rwyf wedi bod yn hynod lwcus i gael profiad o’r gwahanol leoedd hyn o amgylch Prydain.
Ond, wrth feddwl am y peth, pa bawn i’n ennill y loteri, baswn i’n hoffi byw yng Nghernyw! Cymaint â dwi’n hoffi Caerdydd, mae rhywbeth hudolus am Gernyw, ond dwi ddim yn siŵr beth yn union!
Incsblot: Beth yw eich stori orau ers cychwyn yn y maes?
Malcolm: Ennill gwobr Parker Harris, gwobr celf pêl-droed One Love a chael y cyfle i arddangos fy ngwaith yn amgueddfa Lowry ym Manceinion ochr yn ochr â L.S. Lowry ei hun, a oedd y cyntaf i ennill gwobr celf pêl-droed One Love.
Incsblot: Dywedwch gyfrinach wrthym am y Sblot neu rywbeth nad ydym yn ei wybod am yr ardal.
Malcolm: Dwi’n dweud dim!
Incsblot: Sut mae pobl yn gallu dysgu mwy amdanoch chi? A oes gennych chi wefan / dudalennau cyfryngau cymdeithasol? Sut gall pobl gysylltu â chi?
Malcolm: Mae gen i ddwy wefan gyda dolenni i fy nhudalen Facebook ac Instagram ac rwyf newydd ddechrau defnyddio Twitter.
Incsblot: Mae hynny’n wych – diolch yn fawr am y cyfweliad!
Gallwch ddarllen cyfweliad Wales Online gyda Malcolm yma: https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/former-graffiti-artist-who-spends-15518383