Mae’r mudiad lleol y Wiwer Werdd wedi ymuno â phlanhigfa Parc Bute i roddi planhigion yr hydref fel rhan o Ŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd ledled y ddinas.
Ddydd Sadwrn 17 o Hydref, rhwng 10.30am a 12.30pm, byddant yn dosbarthu planhigion llysiau’r hydref a’r gaeaf am ddim ac yn eich helpu i barhau i dyfu eich planhigion eich hun trwy gydol y tymor oerach.
Bydd y Wiwer Werdd yn dosbarthu planhigion i drigolion y Sblot, Tremorfa ac Waunadda o’u safle newydd, Gerddi’r Rheilffordd ac maen nhw’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi i’r safle cyn i’r gwaith ddechrau. Mae’n gyfle gwych i gael cipolwg ar y tir cymunedol wrth ochr y rheilffordd a gofyn cwestiynau am y prosiect cyffrous.
Rhaid bwcio, felly ewch yma i sicrhau eich lle: https://green-city-events.eventcube.io/events/26453/autumn-plant-giveaway
Er mwyn cadw pawb yn ddiogel, mae Gwiwer Werdd yn ei gwneud yn ofynnol i bawb dros 11 oed wisgo masg wyneb (oni bai eich bod wedi eich eithrio) ac mae gofyn i chi gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr oddi wrth unrhyw un y tu allan i’ch cartref. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am ein mesurau diogelwch mewn e-bost cyn y digwyddiad.
Os na allwch adael y tŷ na chasglu, gallwch archebu slot dosbarthu trwy’r ddolen docynnau a bydd y tîm yn danfon eich planhigion yn uniongyrchol i’ch drws (Y Sblot, Waunadda a Thremorfa yn unig) gyda chymorth gwirfoddolwyr o’r grŵp cymorth cydfuddiannol lleol.
Sylwch fod yr uchod yn berthnasol i breswylwyr y Sblot, Waunadda a Thremorfa yn unig a bod y niferoedd yn gyfyngedig. Os ydych chi’n byw mewn ardal arall o Gaerdydd, sgroliwch i lawr i ddarganfod gyda phwy i gysylltu ynglŷn â chasglu planhigion.
Byddwch yn gallu dewis o blith y planhigion canlynol:
Bresych / Shibwns / Sbigoglys / Tatsoi / Cêl / Mwstard / Letys / Perlysiau cymysg
Mae’r rhain i gyd yn blanhigion gwydn sydd wedi’u dewis i dyfu’n dda dros y misoedd oerach ac ymestyn eich cynhaeaf.
Mae rhai o’r planhigion yn dod mewn hambyrddau o naw felly efallai yr hoffech chi rannu a chyfnewid â’ch cymdogion. Oherwydd y galw, y cyntaf i’r felin gaiff falu a bydd y planhigion yn mynd yn gyflym.
Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd sy’n disgwyl cynnwys dros 1,200 o bobl mewn gweithgareddau tyfu, coginio a rhannu bwyd ledled y ddinas. Bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 12 Medi i Ddiwrnod Bwyd y Byd ar 16 Hydref.
Mae Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen Tyfu Gyda’n Gilydd Caerdydd dros yr haf pan gafodd dros 14,000 o blanhigion, hadau a phecynnau tyfu eu dosbarthu i dros 3,000 o gartrefi.
Bydd yr ŵyl hefyd yn gyfle i ddathlu’r holl waith gwych mae grwpiau cymunedol wedi’i wneud i fwydo’r ddinas a dod â phobl at ei gilydd yn ystod y cyfnod cloi.
– – – – – – –
Mae Gwiwer Werdd yn hapus i fod yn gweithio gyda sefydliadau lleol trwy rwydwaith Caerdydd Fwytadwy i ddosbarthu planhigion ar draws gwahanol ardaloedd yng Nghaerdydd felly cysylltwch â’r grŵp yn eich ardal chi os hoffech chi gael rhai planhigion. Byddwch yn ymwybodol bod y grwpiau hyn yn cymryd rhan yn wirfoddol ac efallai na fydd ganddynt y gallu i ddosbarthu planhigion i bawb sy’n gofyn amdanynt.
Eartha – Y Rhath/Cathays
Grow Cardiff – Trelái/Y Tyllgoed
Tyfu Sgwrs y Stryd – Grangetown/Glan yr Afon
Mwynhewch x