Bydd tua 17,000 o gartrefi yn cymryd rhan mewn cynllun peilot newydd ailgylchu gwydr ac mae rhai strydoedd yn y Sblot wedi cael eu dewis fel rhan o’r treial.
Bydd y peilot yn cychwyn ar 15 Hydref ac yn rhedeg am o leiaf 12 wythnos. Bydd yn cynnwys detholiad o dai o ddeng ward ar draws y ddinas.
Bydd y trigolion sy’n rhan o’r cynllun hwn yn derbyn llythyr gyda gwybodaeth gychwynnol am y peilot ar ôl 10 Medi.
Bydd pob cartref sy’n cymryd rhan yn derbyn cadi newydd a thaflen fanwl ar ôl 1 Hydref. Bydd gofyn i’r preswylwyr roi unrhyw wydr yn y cynhwysydd hwn y gellir ei gloi, yn hytrach nag yn y bagiau gwyrdd. Yna, bydd y gwydr yn cael ei gasglu am yn ail wythnos ar yr un diwrnod â’r gwastraff cyffredinol (bin du/bag coch streipiog).
Ni fydd bagiau gwyrdd sy’n cynnwys gwydr yn cael eu casglu o’r cartrefi sy’n rhan o’r cynllun peilot yn cael eu casglu o 15 Hydref ymlaen.
Bydd y peilot yn asesu a fydd casglu gwydr ar wahân i nwyddau eraill y gellir eu hailgylchu yn cynyddu ansawdd y cynnyrch, gan leihau’r gost i’r cyngor ac arbed arian y trethdalwyr.
Ar hyn o bryd, mae’r bagiau gwyrdd yn cael eu cymryd i gyfleuster ailgylchu o’r enw Cyfleuster Adfer Deunyddiau. Mae’r peiriant yn gwahanu’r deunyddiau ailgylchadwy yn ôl maint a phwysau gan ddefnyddio echelydd tro a chludfeltiau. Ac eithrio gwydr, mae’r deunyddiau i’w hailgylchu yn cael eu bwndelu a’u gwerthu i gael eu troi yn eitemau newydd.
Trwy’r broses gwahanu hon yn y ganolfan ailgylchu, mae’r gwydr yn cael ei dorri’n ddarnau bach ond mae’n aml yn mynd yn gymysg gyda deunyddiau eraill. Mae hynny’n golygu bod rhaid i’r cyngor dalu cwmni i’w lanhau cyn y gellir ei ailgylchu. Yn y pen draw, mae’r gwydr toredig yn cael ei defnyddio fel cyfanred i adeiladu ffyrdd neu’n cael ei defnyddio mewn cynnyrch inswleiddio.
Trwy’r dull newydd o gasglu, mae’r cyngor yn bwriadu gwerthu’r gwydr, gan greu incwm mawr ei hangen i roi yn ôl yng ngwasanaethau’r Cyngor. Y bwriad yw darganfod marchnadoedd newydd er mwyn gallu defnyddio poteli gwydr i wneud cynnyrch gwydr newydd, proses a elwir yn ailgylchu dolen.
Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd ar Wales Online yr wythnos hon, dyma’r strydoedd yn y Sblot (ac Waunadda) a fydd yn derbyn cadis glas ac yn cymryd rhan yn y treial (O.N. – diolch Wales Online am gyhoeddi’r rhestr hon, do’n i methu dod o hyd iddi unman ar wefan y Cyngor! Mae’n gynorthwyol iawn ac rwy’n gobeithio bod hi’n iawn i mi ei defnyddio!)”
Enw’r Stryd | Nifer y Tai |
Stryd Aberdyfi | 83 |
Stryd Aberystwyth | 59 |
Lle Waunadda | 9 |
Stryd Adeline | 90 |
Clos Applewood | 20 |
Stryd Arrol | 3 |
Stryd Asgog | 34 |
Ffordd Bayside | 38 |
Stryd Carlisle | 99 |
Lle Cumnock | 15 |
Teras Cumnock | 21 |
Stryd Cumrae | 25 |
Cwrt Sanquhar | 9 |
Stryd Dwyreiniol Tyndall | 44 |
Ffordd Ottoway | 1 |
Lle Gwendoline | 9 |
Stryd Gwendoline | 30 |
Stryd Habershon | 78 |
Cwrt Hickory | 34 |
Stryd Hinton | 24 |
Stryd Howard | 33 |
Stryd Inchmarnock | 31 |
Stryd Janet | 82 |
Stryd Kerrycroy | 32 |
Stryd Kilcattan | 34 |
Stryd Kingarth | 22 |
Teras yr Arglwyddes Farged | 24 |
Stryd Lamberton | 26 |
Stryd Marion | 114 |
Ffordd Moorland | 40 |
Lôn Moors | 8 |
Stryd Castell Nedd | 1 |
Clos Neilson | 11 |
Stryd Ordell | 91 |
Cilgant y Rheilffordd | 19 |
Stryd y Rheilffordd | 123 |
Stryd Sanquhar | 87 |
Rhodfa Sapele | 22 |
Ffordd Singleton | 45 |
Ffordd Ddeheuol y Parc | 6 |
Ffordd Sblot | 193 |
Clos Spruce | 22 |
Cwrt Stainer | 9 |
Ffordd Walker | 121 |
Clos Wilkinson | 16 |
Ffordd Windsor | 4 |
Cyfanswm | 1941 |
Sut i:
Nid yw pob math o wydr yn gallu mynd yn y cadi. Dyma restr o’r pethau y gellir eu rhoi yn y cadi neu beidio, wedi’i chymryd o wefan Cyngor Caerdydd:
Ie plîs
- Boteli o unrhyw liw (e.e. gwin, cwrw, gwirodydd)
- Jariau (e.e. sawsiau, jam, bwyd babi)
- Pecynnu gwydr (e.e. persawr, sent eillio, boteli moddion, jariau eli wyneb)
Gellir rhoi’r uchod yn y cadi yn gyflawn neu wedi torri. Cymerwch ofal gydag unrhyw wydr sydd wedi torri. Nid oes angen i chi ei lapio mewn papur.
Dim diolch
Mae’r mathau hyn o wydr yn toddi ar dymheredd gwahanol yn y broses ailgylchu, felly ni ellir eu casglu gyda phecynnu gwydr.
- Offer coginio gwydr (e.e. Pyrex, platiau microdon)
- Gwydrau yfed
- Serameg (e.e. llestr, priddlestri)
- Fasys neu eitemau addurniadol
- Drychau
- Bylbiau a thiwbiau golau
- Sbectol
- Cwareli ffenestri
Beth i’w wneud: y manylion
Sicrhewch eich bod yn gwneud y canlynol:
- Rhowch eich gwydr yn y cadi glas yn hytrach na’ch bagiau gwyrdd.
- Peidiwch â leinio eich cadi gyda bagiau plastig.
- Rhowch gaeadau plastig neu fetel a thopiau boteli yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd.
- Dychwelwch eich cadi i’ch cartref erbyn 9am y diwrnod ar ôl casglu.
Derbynnir gwydr o unrhyw liw. Nid oes angen i chi dynnu’r labeli.
Bydd y gwydr yn cael ei gasglu rhwng 8am-8pm. Ond, gofynnir ichi roi eich cadi gwydr glas allan ar y palmant i’w gasglu dim cynharach na 4.30pm y diwrnod blaenorol a dim hwyrach na 6am ar y diwrnod casglu.
Fflatiau
Os ydych chi’n byw mewn bloc o fflatiau a bod gennych chi finiau cyfunol, bydd y cyngor yn darparu bin glas newydd, 240 litr i chi.
Bydd y bin wedi’i gloi ond bydd ganddo dwll cylch ar gyfer gwydr. Gallwch ddefnyddio pa bynnag gynhwysydd y dymunwch i fynd â’ch gwydr i’r bin cyfunol, ond gofynnir ichi roi gwydr yn unig yn y bin.
Y Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd sydd y tu ôl i’r cynllun ac os yw’r peilot yn llwyddiannus, mae’n awyddus i’w ehangu i bob ward ar draws y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Michael: “Pan gychwynnodd casgliadau ailgylchu yng Nghaerdydd, roeddem yn awyddus iawn i’w wneud mor hawdd â phosib i breswylwyr trwy ofyn iddynt roi’r holl ddeunyddiau mewn un cynhwysydd – y bagiau gwyrdd. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae Caerdydd ymhlith y dinasoedd gorau yn y DU am ailgylchu.
“Nawr, mae angen i ni fireinio’r broses trwy gasglu gwydr ar wahân. Rydym wedi dadansoddi’r gwahanol fathau o wastraff mae preswylwyr yn eu rhoi allan i’w hailgylchu ac yn ôl swm, mae gwydr yn gyfran fach iawn o’r deunyddiau hyn. Rydym wedi dewis maint y cynhwysydd yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn ddigonol ar gyfer mwyafrif y cartrefi a pan ei fod yn llawn, ei fod ddim yn rhy drwm i’n staff casglu gwastraff neu breswylwyr ei godi.
“Os oes angen, gellir darparu cadi gwydr arall am ddim i’r sawl yn y treial. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i drigolion gymryd rhan yn y peilot am o leiaf dau gasgliad er mwyn sicrhau bod angen cadi ychwanegol. Byddwn yn cymryd archebion o 12 Tachwedd 2018.
“Ar gyfer y trigolion hynny nad sy’n rhan o’r peilot hwn, gofynnwn ichi roi’ch gwydr yn eich bagiau gwyrdd neu os oes yn well gennych ddefnyddio banciau boteli, mae hynny’n iawn hefyd.
“Hoffwn ddiolch i breswylwyr Caerdydd, unwaith eto, am eu hymdrechion parhaus i ailgylchu cymaint o’u gwastraff â phosib. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth a pharhau i gynyddu’r gyfradd ailgylchu er mwyn i ni allu curo’r targed ailgylchu o 70% erbyn 2025. ”
Cynhelir y cynllun peilot ar strydoedd penodol yn wardiau Treganna; Trelái; Grangetown; Y Mynydd Bychan; Pentwyn; Pen-y-lan; Radur; Rhiwbeina; Y Sblot a Trowbridge. Gellir gweld rhestr o’r holl strydoedd sy’n rhan o’r cyfnod treial yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/newidiadau-i-wasanaethau-gwastraff/Pages/default.aspx
Gellir gweld fideo byr yn esbonio’r rhesymau y tu ôl i’r peilot ar https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/newidiadau-i-wasanaethau-gwastraff/Pages/default.aspx
Dewiswyd y cartrefi yn seiliedig ar arferion ailgylchu’r ardal benodol honno a math y cartref.