Oherwydd y sefyllfa gyfredol, nid oedd merch sy’n gweithio i’r GIG ac sy’n byw yn y Sblot yn methu bod gyda’i theulu ar ei phen-blwydd yn 30, felly fe gysylltodd ei chwaer â phobl ar ei stryd i ofyn am eu help. Roedd yr ymateb yn anhygoel.
Mae Steph yn dod o Fryste, yn byw yn y Sblot ac yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Pan ddaeth y bobl ar ei stryd i wybod ei bod ar fin dathlu ei phen-blwydd yn 30 heb unrhyw aelodau o’i theulu gerllaw, daethant at ei gilydd ac addurno eu ffenestri ar gyfer ei phen-blwydd.
Pan gysylltodd chwaer Steph, Jessica, â thrigolion yn y Sblot o Fryste yn gofyn iddynt helpu dathlu pen-blwydd ei chwaer, doedd ganddi ddim syniad sut ymateb byddai hi’n cael.
Bu un dyn sy’n byw ar y stryd, Richard Kenickie Behrens, gysylltu ag Incsblot i esbonio sut daeth y stryd at ei gilydd i ddathlu ac i rannu lluniau o’r negeseuon i Steph ac roedd y sylwadau ar Facebook a Twitter yn anhygoel. Cafwyd nifer o sylwadau hyfryd am ymdrechion y stryd a’r ysbryd cymunedol yma yn y Sblot, gan gynnwys un gan chwaer Steph, Jessica, a ddywedodd ar Twitter:
“Diolch yn fawr iawn iawn! Dyma fy chwaer ac rwyf MOR ddiolchgar!!!!!!!!”
Ychwanegodd hi:
“Mae’n wych. Aeth pawb y tu hwnt i’r galw ac mae wir wedi sicrhau y bydd hi’n cael diwrnod gwerth chweil! Ysbryd cymunedol anhygoel x”
Cafwyd parti stryd (wel, parti stryd ‘yn eich gardd eich hun) i roi cyfle i Steph godi gwydraid gyda chymdogion a dathlu ei phen-blwydd.
Roedd sylwadau eraill ar gyfryngau cymdeithasol yn dathlu’r gymuned yma yn y Sblot:
Dywedodd Kath Luxton: Mae hwn yn rheswm gwych arall pam rwyf wrth fy modd yn byw yn Y Sblot!
Dywedodd David Price: Rwyf ond wedi byw yn y Sblot am ychydig dros flwyddyn ac mae’r holl gymdogion a’r bobl yn gyffredinol wedi bod yn hyfryd ac yn groesawgar. Dyma’r lle gorau dwi erioed wedi byw a dwi wedi byw mewn cryn dipyn o leoedd.
A dywedodd Ryan Davenport: Mae hwn ar fy llwybr dosbarthu post! Wedi gweld yr holl luniau a negeseuon bore ‘ma. Am weithred ffantastig gan gymuned wych, rwy’n falch o fod yn bostman yn yr ardal hon
Unwaith eto, gallwn ymfalchïo yn y Sblot!