Bob dydd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am ganlyniadau positif profion Covid-19 yng Nghymru. Mae’r wefan yn caniatáu ichi chwilio am wybodaeth yn ôl bwrdd iechyd lleol ac mae yna fap defnyddiol sy’n dangos achosion mewn wardiau unigol dros gyfnod treigl 21 diwrnod a saith diwrnod.
Es i ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru bore ‘ma i gymryd golwg ar y data diweddaraf ar gyfer Caerdydd yn gyffredinol ac ar gyfer y Sblot, Waunadda a Thremorfa ar wahân. Dyma beth wnes i ddod o hyd iddo:
Data o 20 i 26 Hydref 2020:
Ardal Achos Fesul 100,000 % o’r achosion yng Nghaerdydd
Caerdydd 1,214 330.9
Waunadda 33 273.3 2.7%
Y Sblot 12 194.6 0.98%
Tremorfa 27 360.4 2.22
Cymerwch olwg ar eich data lleol yma: https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary
Nifer yr achosion yng Nghaerdydd: 1,214
Mae achosion fesul pob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghaerdydd yn 330.9 am y cyfnod saith diwrnod hwn, tra bod gan Gymru gyfan 233.0 o achosion fesul pob 100,000 o’r boblogaeth. Felly mae dwysedd yr haint yn uwch yng Nghaerdydd nag ar draws Cymru, ond nid yw hynny’n sioc o ystyried mai Caerdydd yw rhan fwyaf poblog Cymru.
Yn ystod y cyfnod saith diwrnod, profwyd 5,983 o bobl yng Nghaerdydd, gyda 20.3% yn cael canlyniad positif (o’i gymharu â 16.7% yn cael canlyniad positif ledled Cymru gyfan).
Data o 6 i 26 Hydref 2020:
Ardal Achos Fesul 100,000 % o’r achosion yng Nghaerdydd
Caerdydd 3,419 931.9
Waunadda 69 571.5 2%
Y Sblot 24 389.3 0.70%
Tremorfa 54 720.8 1.58%
Yn seiliedig ar y ddwy set o ddata, mae’n ymddangos bod cyfraddau heintiau wedi codi’n ddiweddar yn y tair ardal sef Waunadda, Y Sblot a Thremorfa. Pan i chi edrych yn ôl ar ddata Caerdydd ar gyfer Gorffennaf 2020, pan mai’r ffigur dyddiol uchaf a gofnodwyd oedd 9, mae’r cynnydd diweddar yn dangos tuedd bryderus.
Bydd yn ddiddorol gweld y data ymhen pythefnos, pan fydd canlyniadau’r Cyfnod Atal yn cychwyn cael effaith. Gobeithio y bydd y bariau ar y graff yn dechrau crebachu unwaith eto.
Canllawiau coronafeirws
Felly, beth allwn ni i gyd ei wneud i helpu i atal yr haint rhag lledaenu ymhellach a lefelu’r chwydd enfawr hwnnw mewn achosion newydd ers mis Medi?
Yn ystod y Cyfnod Atal, mae’r rheolau’n weddol syml:
• arhoswch gartref
• cadwch bellter cymdeithasol ar bob adeg
• golchwch eich dwylo’n rheolaidd
• peidiwch â chwrdd ag unrhyw un nad ydych chi’n byw gyda nhw
• gweithiwch o adref os gallwch chi
Hunanynyswch os oes symptomau gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref.
Ewch am brawf os oes gennych chi symptomau.
Mae yna eithriadau; gallwch ddarllen mwy yma: https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin?_ga=2.181055727.973759356.1604328043-426221496.1594723586